"Stori afaelgar, ddarllenadwy gyda chymeriadau credadwy wedi’u darlunio’n grefftus... Drwy greu cymeriadau cryf a stori sy’n cynnal yr holl ffordd drwy’r gyfrol, a hynny mewn arddull rwydd sy’n llifo’n hollol naturiol, mae Elin Llwyd Morgan wedi llunio nofel ardderchog sy’n diddanu a hefyd yn procio. Mwy plîs!" Catrin Beard, Gwales
Ar ol i'w chyn-gariad cenedlaetholgar ddiflannu, mae Ielena yn dychwelyd i'r coleg yn Aberystwyth i wynebu cwestiynau gan yr heddlu, bygythiadau gan stelciwr, a chyfyng gyngor wrth iddi gael ei rhwygo rhwng sawl dyn - yn eu plith y Ditectif Insbector Iestyn Morgan.
Wrth i dafarnwr gwrth-Gymreig hefyd ddiflannu, mae ymchwiliad yr heddlu yn symud i Ddyffryn Ceiriog, ble mae teulu Ielena hwythau yn profi tro ar fyd. Wrth i'r dirgelwch gael ei ddatrys yn raddol, mae'r clymau emosiynol yn dwysau. Ond dim ond y lleuad sy'n gweld y cwbl, chwedl Steff, y brawd awtistig sy'n gweld y byd trwy lygaid hollol wahanol.