"Welais i neb - neb - oedd yn teimlo mor angerddol dros Gymru a'r Gymraeg. A dyma oedd yn ei danio. Roedd yn teimlo i'r byw." Angharad Tomos
Ysgrifau coffa a cherddi gan amrywiaeth eang o awduron o bob oed yn trafod y cyfraniad aruthrol a wnaeth Meredydd Evans i ddiwylliant a gwleidyddiaeth Cymru. Mae'r gyfrol yr un mor amrywiol â'r cyfraniadau lu a wnaeth Merêd, a oedd yn ymgyrchydd ym mhopeth a wnâi: o athroniaeth i ganu ysgafn ac o wleidyddiaeth i ganu gwerin, fel addysgwr a sylfaenydd y 'Papur Bro'.
"Disgrifiad John Roberts Williams o’r Dr Meredydd Evans oedd ‘dyn ar dân’, a go brin y gellid bod wedi dewis gwell teitl i’r gyfrol hon, gan fod y gwrthrych ‘ar dân’ dros gynifer o bethau. Testun rhyfeddod oedd ei frwdfrydedd mawr dros bob peth yr oedd yn ymgymryd ag ef neu’n ymddiddori ynddo, ac mae nifer o benodau yn y gyfrol ragorol hon yn dyst i hynny." John Meurig Edwards, Gwales.com
"Pan fu farw Dr Meredydd Evans roedd swn y cwymp yn fyddarol, ei atsain i'w glywed dors bobman a chenedl gyfan yno i dystio i'r tawelwch trwm a syrthiodd dros y goedwig honno wedyn. Ond ni pharhaodd y tawelwch yn hir rhwng y dail a'r brigau ac wele, rhwng y copediach eraill, gyfrol hardd yn ymddangos i goffau'r dderwen braff.
Yr hyn a geir yn y gyfrol hon yw tystiolaeth gan y rheini a glywodd nid yn unig y cwymp, ond a fu'n dyst hefyd i'r seinio - bywyd Meredydd Evans - ac a welodd y dderwen hon yn ei holl ogoniant." - Elan Grug Muse, O'r Pedwar Gwynt