Salmau Cân 1621 - cyfieithiad o'r Salmau i farddoniaeth rydd Gymraeg, yn addas ar gyfer eu canu’n gynulleidfaol. Gwaith Edmund Prys (1544-1623), bardd ac Archddiacon Meirionydd. Cawsant eu hargraffu yn Llundain a’u cyhoeddi gyda'r Llyfr Gweddi Cyffredin. Mae Edmund Prys yn cael ei grybwyll gan William Morgan fel un o dri wnaeth ei helpu wrth baratoi ei gyfieithiad o'r Beibl (1588).
Salmau Cân 1621 - the Welsh Metrical Psalms - is a translation of the Psalms into free Welsh verse, suitable for congregational singing. The work of Edmund Prys (1544-1623), a poet and Archdeacon of Merioneth. They were printed in London and published with the Book of Common Prayer. Edmund Prys is mentioned by William Morgan as one of three who helped him in the preparation of his translation of the Bible (1588).