Nofel wreiddiol hynod o ddyfeisgar am ddyn cyffredin sydd hefyd yn 'hitman'. Ond beth yw'r gyfrinach o'i orffennol sy'n bygwth chwalu ei ddyfodol?
Mae bywyd yn eithaf normal i Meirion Fôn, pedwar deg rhywbeth... Mae'n gweithio fel “hitman” i gadw'i fam gegog mewn cartref henoed moethus... Ac yn cytuno i fynd at ddêt i blesio Mrs Fôn...
Yna, un diwrnod, mae'n cael amlen newydd... rhif Tri Deg Tri.
Ai Meirion sy'n gyfrifol am dynged pob un mae'n ei ladd? A beth yw'r gyfrinach dywyll o'r gorffennol sy'n effeithio ar ei ddyfodol?
"Syfrdanol" Tony Bianchi
"Mae'r nofel hon gan Euron Griffith yn hynod o afaelgar. Mae e yn ddyfeisgar, mae wedi ei sgwennu yn grefftus ac yn cynnwys elfen o hiwmor a dyfnder annisgwyl iawn. Mae yma arddull rhwydd a ffraeth ac mae'n hynod darllenadwy gyda elfen o releaeth hudol... Wedi llwyr fwynhau'r nofel!" - Sioned Williams, Rhaglen Dewi Llwyd