'Nofel soffistigedig ar y naw, sy'n llawn dop o syniadau gyda phleserau mawr i'w cael ar bron bob tudalen. Dyma awdur gyda doniau digamsyniol o ran iaith a dychymyg ond mae hefyd yn cynnig gwaith deallusol grymus ... ' Jon Gower
'Nofel arbennig iawn gan awdur talentog, medrus. Mae'r disgrifiadau o'r therapi'n taro deuddeg yn ddi-ffael - yn boenus felly.' Gareth F. Williams
'Mae'r nofelydd yn llwyddo i drawsnewid profiad oeraidd, amhleserus yn fyfyrdod lliwgar ac athronyddol am fywyd.' Fflur Dafydd
Beth sy'n digwydd pan fo'n rhaid i ŵr ifanc o dref fach yng Ngwynedd dreulio chwe wythnos ym Manceinion ar gyfer cwrs o radiotherapi? Cawn yn y nofel hon ddarlun o fywyd trwy lygaid claf rhif 24609-3740. Nofel arobryn Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, 2016.